Hanes Cymdeithas Melinau Cymru

Ffurfiwyd Cymdeithas Melinau Cymru o ganlyniad i’r pryder a dyfodd yn ystod y 1970au a’r 1980au, am y sefyllfa druenus a oedd yn wynebu nifer fawr o felinau’r wlad. Sylweddolwyd y pryd hynny bod angen gweithredu ar frys i’w hachub a’u hatgyweirio, neu o leiaf eu cofnodi, gan fod cymaint ohonynt yn cael eu troi’n anedd-dai, neu’n cael eu chwalu’n gyfan gwbl. Felly, yn nechrau 1984, ffurfiwyd gweithgor i ystyried y posibilrwydd o sefydlu partneriaeth a fyddai’n dod ag unigolion a sefydliadau ynghyd a oedd â diddordeb mewn astudio, cofnodi ac atgyweirio melinau traddodiadol, yn ogystal â chefnogi’r rhai a oedd yn dal i weithio.

Yr oedd eisoes, gan yr S.P.A.B. (Society for the Protection of Ancient Buildings), adran felinau, ond teimlwyd bod pellter y sefydliad hwn, yn Llundain, yn ei wneud yn ddieithr i’r mwyafrif. Byddai hyn hefyd yn ei gwneud yn anodd brwydro’n effeithiol a chynnal diddordeb yng Nghymru.

Erbyn haf 1984 lluniwyd Cyfansoddiad drafft, a threfnwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf. Cynhaliwyd y Cyfarfod Sefydlu ar 20 Hydref 1984 yng Ngholeg Addysg Uwch Powys yn y Drenewydd. Daeth 65 person ynghyd, a chadeiriwyd y cyfarfod gan Dr Eurwyn Wiliam o Amgueddfa Werin Cymru. Amlinellwyd amcanion y Gymdeithas arfaethedig, a thrafodwyd, a chytunwyd ar Gyfansoddiad; gyda’r amcanion o

‘…astudio, cofnodi, dehongli a rhoi cyhoeddusrwydd i felinau gwynt a dŵr Cymru; i hybu diddordeb ynddynt ymysg y cyhoedd; i roi cyngor ynglŷn â’u cadw a’u defnyddio, ac i roi cefnogaeth i felinwyr…’.

Cytunwyd y dylid cynnal dau gyfarfod y flwyddyn: y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Hydref, a Chyfarfod y Gwanwyn ym mis Ebrill, gyda lleoliad y cyfarfodydd hyn yn amrywio rhwng y gogledd, y canolbarth a’r de. Mae’r drefn hon wedi gweithio’n dda dros y blynyddoedd, a cheir tua 50 i 70 yn mynychu pob cyfarfod.

O fewn saith mis i’r cyfarfod cyntaf roedd yr aelodaeth wedi codi i 97, ac mae’r twf yma wedi parhau. Erbyn heddiw mae gan y Gymdeithas dros ddau gant o aelodau. Yn unol ag amcanion y Gymdeithas i hybu melinau gweithredol, argraffwyd taflen yn 1986 i roi cyhoeddusrwydd i felinau a oedd ar agor i’r cyhoedd. Argraffwyd 14,000 o’r taflenni hyn, gyda 60% o’r gost yn cael ei dalu gan Fwrdd Croeso Cymru fel rhan o’r cynllun marchnata-ar-y-cyd. Yn dilyn llwyddiant y daflen gyntaf, penderfynwyd cyhoeddi taflen newydd yn flynyddol, gyda 40 – 50,000 yn cael eu hargraffu a’u dosbarthu pob blwyddyn, yn aml heb unrhyw gymorth ariannol allanol. Serch hynny, daeth yn amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf nad oedd hyn bellach yn ffordd mor effeithiol o dargedi ymwelwyr ac ennyn aelodau newydd. Felly, yn 2001 penderfynwyd sefydlu gwefan ac i ganolbwyntio’r cyhoeddusrwydd ar y we.

Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf cylchgrawn y Gymdeithas, sef Melin, yn 1985. Er mai’r bwriad gwreiddiol oedd cael cylchgrawn achlysurol, llwyddwyd i’w gyhoeddi’n flynyddol. Ceir tair neu fwy o erthyglau ym mhob rhifyn, yn ymwneud â melinau neu agweddau ar felinyddiaeth yng Nghymru. Mae Rhif 1 bellach allan o brint, yr un modd Rhif 5, sef rhifyn arbennig o astudiaeth y diweddar Athro Gordon Tucker o felinau sir Faesyfed. Yn ogystal â’r cylchgrawn, mae’r tâl aelodaeth o £20 yn cynnwys pedwar cylchlythyr y flwyddyn.

Ers sefydlu’r Gymdeithas yn 1984, achubwyd ac adferwyd dros 15 melin yng Nghymru, ac mae’r aelodaeth yn parhau i roi cymorth i gynnal a chadw ac achub rhai eraill.

Erbyn heddiw, cydnabyddir Cymdeithas Melinau Cymru fel y prif sefydliad sy’n cynrychioli melinau, a melinwyr yng Nghymru. Yn 1993, bu’n gyfrifol am lywyddu wythfed gynhadledd y Gymdeithas Felinyddol Rhyngwladol(The International Molinological Society) ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn 2000, llywyddodd gyfarfod penwythnos arbennig ar ran Adran Melinau’r S.P.A.B., sef Molicon 2000, yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Bu achlysuron fel y rhain yn gyfle i godi proffil y Gymdeithas a’i osod ar flaen y llwyfan melinyddol rhyngwladol.

A beth am y dyfodol? Trwy gael aelodaeth gref a gweithgar ym mhob rhan o Gymru gallwn frwydro i sicrhau dyfodol i gymaint ag sy’n bosibl o’n treftadaeth felinyddol draddodiadol.

 

Gerallt D. Nash

Cadeirydd, Cymdeithas Melinau Cymru